Y Pwyllgor Deisebau
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA 26 Ionawr 2012 |
Annwyl Syr / Madam
Mae’r ddeiseb a ganlyn wedi dod i law Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
‘Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y GIG yn darparu gwasanaeth gwell i bobl â nam ar eu clyw.
Os bydd unigolyn byddar am gysylltu â’i feddyg teulu i wneud apwyntiad, ni
fydd yn gallu gwneud hynny gan nad yw meddygfeydd yn cynnig gwasanaeth
tecstio ar gyfer ffonau symudol. (Mae’r mwyafrif o bobl â nam ar eu clyw yn
defnyddio ffonau symudol yn hytrach na ffonau testun). Pan fyddant yn cael
llythyr oddi wrth y bwrdd iechyd yn gofyn iddynt wneud apwyntiad ag
arbenigwr dros y ffôn, ni fyddant yn gallu gwneud hynny gan nad oes
cyfleusterau ar gael iddynt. Pan fyddant yn mynd i’r ysbyty ar gyfer
apwyntiad, nid oes gwasanaeth dolen sain ar gael a fyddai’n galluogi iddynt
glywed ac ateb cwestiynau. Dywedir ei bod yn bosibl trefnu bod cyfieithydd
ar gael. Rydym wedi ceisio sicrhau mynediad i’r math hwn o wasanaeth, ond
mae ein hymdrechion wedi bod yn ofer. Pan fydd pobl â nam ar eu clyw
mewn ysbyty neu feddygfa, ni fyddant yn gallu clywed eu henwau’n cael eu
galw, ac nid oes negesfyrddau ar gael i roi gwybod iddynt pan fydd y
meddyg yn barod i’w gweld. Ni fydd staff yn siarad â chleifion â nam ar eu
clyw oddeutu 99.99% o’r amser. Yn hytrach, byddant yn siarad â’r
cyfieithydd. Mae diffyg ymwybyddiaeth am fyddardod yn broblem. Gan mai
iaith arwyddion yw iaith gyntaf pobl â nam ar eu clyw, mae Saesneg yn iaith
estron iddynt, ac mae’r Saesneg a ddefnyddir gan berson â nam ar ei glyw yn
iaith sylfaenol. Byddai rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn helpu’r GIG i fodloni
ei thargedau. Er enghraifft, byddai’n cwtogi amseroedd ymgynghoriadau ac
yn arwain at ddiagnosau mwy cywir. Byddai’n helpu pobl â nam ar eu clyw
gyda’u hannibyniaeth ac yn sicrhau preifatrwydd iddynt pan fyddant yn
siarad â doctor neu nyrs. Mae gan fanciau a swyddfeydd post y
gwasanaethau hyn, felly pam nad ydynt ar gael yn y GIG?
Cwestiynau y byddwch efallai’n dymuno’u hystyried wrth ymateb
Hoffem glywed safbwyntiau unigolion, grwpiau a chyrff ar destun y ddeiseb hon. Caiff y safbwyntiau hyn eu defnyddio’n dystiolaeth gan y Pwyllgor Deisebau wrth iddo ystyried y ddeiseb, a byddant yn cael eu trosglwyddo hefyd i Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Faterion yn Ymwneud â Phobl Fyddar i gael eu hystyried.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, byddem yn ddiolchgar pe
gallech wneud hynny erbyn 8 Mawrth 2012. Mae canllawiau ar gyflwyno
tystiolaeth wedi eu hatodi.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhannu’r cais hwn gyda phobl eraill sydd â diddordeb neu, pan fydd hynny’n briodol, gydag unrhyw rai o’ch aelodau sefydliadol.
Yn gywir
Abigail Phillips
Clerc y Pwyllgor Deisebau
Cyngor ar gyflwyno tystiolaeth
– Gall y Pwyllgor alw ar y rheini sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.
– Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bydd tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Pwyllgor, a gall rhannau o’r dystiolaeth hon gael eu cynnwys wedyn yn yr adroddiad.
– Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ddata personol yn ei farn ef. Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymegol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.
– Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.